Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2018

Amser: 09.06 - 10.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4525


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Tystion:

Gill Bell, Marine Conservation Society

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu nôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu'r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebydd a gofyn:

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ystyried y ddeiseb ymhellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy, gyda'r bwriad o ystyried y ddwy ddeiseb gyda'i gilydd yn y dyfodol.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

</AI5>

<AI6>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI6>

<AI7>

3.1   P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd am grynodeb o'r dystiolaeth a dderbyniwyd hyd yma, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd. 

</AI7>

<AI8>

3.2   P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan bellach wedi cysylltu â Vertex i ofyn iddo gyflwyno'i dystiolaeth a gofyn am ddiweddariad pan dderbynnir unrhyw ymateb; a

·         Vertex, i ofyn i'r cwmni am wybodaeth ynghylch trafodaethau y mae wedi'u cynnal â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau bod Orkambi ar gael i gleifion Cymru.

 

</AI8>

<AI9>

3.3   P-05-757 Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr ystyriaeth barhaus ynghylch materion yn ymwneud â Hawliau Dynol, CCUHP a gwahaniaethu, a gofyn a all hi ddarparu amserlen fwy manwl ar gyfer darparu ymateb o sylwedd i'r Pwyllgor.

 

</AI9>

<AI10>

3.4   P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr ystyriaeth barhaus ynghylch materion yn ymwneud â Hawliau Dynol, CCUHP a gwahaniaethu, a gofyn a all hi ddarparu amserlen fwy manwl ar gyfer darparu ymateb o sylwedd i'r Pwyllgor.

</AI10>

<AI11>

3.5   P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at CBAC i holi am ei asesiad o'r ymarfer mewn perthynas ag enillion cerdyn crafu ac, yn arbennig, a yw hwn yn dasg briodol ar gyfer dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4; ac

·         aros am gyhoeddi adolygiad Cymwysterau Cymru o'r Dystysgrif Her Sgiliau.

</AI11>

<AI12>

3.6   P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yng ngoleuni'r awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ystyried y meini prawf cymhwysedd ar gyfer LCA, yn dilyn cyfarfod diweddar rhwng Arweinydd y Tŷ a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

 

</AI12>

<AI13>

3.7   P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chytunodd i aros am farn y deisebwyr ac ystyried y ddeiseb eto yn dilyn y gwaith y mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ei wneud ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Sector Iechyd). 

 

</AI13>

<AI14>

3.8   Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Tata Steel ynghylch pecyn o gefnogaeth mewn cysylltiad â'r gweithfeydd pŵer yn y gwaith dur.

</AI14>

<AI15>

3.9   P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Trafododd y Pwyllgor nifer o eitemau o ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         gael copi o astudiaeth Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a gomisiynwyd yn 2015; a

·         llunio crynodeb byr o'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar y ddeiseb hyd yn hyn.

</AI15>

<AI16>

3.10P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y safleoedd sy'n cael eu datblygu yn y maes hwn yn dilyn cam cyntaf y rhaglen Mannau Cyfyng, ac am ei farn mewn perthynas â'r strategaeth nwyddau newydd a rennir gan y deisebydd.

</AI16>

<AI17>

3.11P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Cytunodd y Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth

 

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ar gyfer P-05-767 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai'n ystyried datblygu rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored gyda'r broses. 

 

</AI17>

<AI18>

3.12P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Cytunodd y Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth

 

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fydd yn ystyried datblygu rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored y broses. 

 

</AI18>

<AI19>

3.13P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Cytunodd y Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig a P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Tre-Taliesin: Angen Brys am Fesurau Camymddwyn Cyflymdra Effeithiol

 

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ar gyfer P-05-767 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai'n ystyried datblygu rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored gyda'r broses. 

 

</AI19>

<AI20>

3.14P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a yw mewn sefyllfa i roi diweddariad ar y broses asesu mewn perthynas â'r achos dros orsaf newydd yn Crymlin, ac i gael gwybodaeth bellach am yr amser tebygol ar gyfer y gwaith hwn.

 

</AI20>

<AI21>

3.15P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i aros am farn y deisebydd ac, ar yr adeg honno, ystyried ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

 

</AI21>

<AI22>

3.16P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ ac Openreach ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf gan y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb eto, o gofio nad yw ar hyn o bryd yn glir a yw Llangenny wedi cael ei gysylltu â band eang cyflym iawn yn seiliedig ar y wybodaeth a dderbyniwyd.

 

</AI22>

<AI23>

3.17P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ i ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i ariannu cefnogaeth benodol i ddynion sy'n dioddef trais yn y cartref, ac a fu cyfleoedd cyn hynny i sefydliadau wneud cais am gyllid.

</AI23>

<AI24>

4       Papur i’w nodi

</AI24>

<AI25>

4.1   P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd a gohebiaeth dyddiedig Chwefror 2017 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i ofyn:

 

</AI25>

<AI26>

5       Sesiwn dystiolaeth - P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth Cymru, Cymdeithas Cadwraeth Forol.

</AI26>

<AI27>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI27>

<AI28>

7       Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy a chytunodd i:

 

</AI28>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>